Eitemau ar
yr agenda
|
Camau
i’w cymryd
|
- Croeso - Rhun ap
Iorwerth (RaI)
Agorodd RaI y
sesiwn drwy groesawu pawb i’r cyfarfod a chrynhoi’r
agenda ar gyfer y diwrnod. Gofynnodd RaI a oedd pawb yn fodlon bod
y sesiwn yn cael ei recordio at ddibenion cofnodi, a
chytunodd pawb eu bod yn fodlon. Cafodd thema'r
diwrnod ei nodi, sef ystyried ble y gall manwerthu orgyffwrdd
â thechnoleg ddigidol, twristiaeth, a diwylliannau
gwahanol.
|
|
– Stori
Môn – Animated Technologies
Soniodd Teifi
Jones (TJ) o Gyngor Ynys Môn am y cydweithio cyffrous
sy’n digwydd rhwng y cyngor ac Animated Technologies. Mae hwn
yn gymhwysiad realiti estynedig (AR) sy'n gweithio ar draws 100
pwynt o ddiddordeb ar yr ynys, gyda’r nod o rannu mwy o
wybodaeth â thwristiaid am yr ardal leol. Mae hanesydd lleol
wedi bod yn rhan o’r gwaith a wnaed ar yr ap hwn. Yn
anffodus, nid oedd modd i Klaire Hodgson (KH) o Animated
Technologies ymuno â’r cyfarfod. Felly, siaradodd
Carwyn Edwards (CE) o M-SParc am y prosiect ar ran y cwmni, gan fod
M-SParc wedi bod yn cydweithio ar y gwaith.
Agorwyd y llawr i
gwestiynau:
Peter Williams
(PW) – A oes angen WiFi neu gysylltiad symudol arnoch er mwyn
sicrhau bod yr ap yn gweithio?
CE – Ar hyn
o bryd, rydych yn lawrlwytho'r ap cyfan, ac yna gallwch ei
ddefnyddio drwy WiFi.
Daniel Cunliffe
(DC) – Pa gyllid parhaus sydd gennych chi, o ystyried y
ffaith bod cyllid ar gael ar gyfer datblygu’r dechnoleg ond
nid ar gyfer ei chynnal?
CE – Cyllid
o’r Gronfa Adfywio Cymunedol. Felly, bydd y cyllid ar gael am
flwyddyn gyfan. Bydd costau ynghlwm wrth ychwanegu cynnwys
ychwanegol. Un enghraifft o hyn yw’r diwydiant gemau, lle mae
cynnwys a hysbysebion yn cael eu hychwanegu.
Luke Rowlands (LR)
– Sut y gwnaethoch chi fynd ati i ddatblygu’r ap? A
gafodd ei ddatblygu ar sail strwythur a gymeradwywyd ymlaen llaw,
neu a oedd y cod yn newydd?
CE – Cafodd
ei ddatblygu gan ddefnyddio Unity a nifer o lyfrgelloedd. Mae
fframwaith eisoes ar waith ar gyfer yr ap hwn er mwyn lleihau
costau.
Diolchodd RaI
i’r siaradwyr ac i bawb arall am eu cwestiynau.
|
|
– Yr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol – Keith Jones (KJ)
Cafwyd trafodaeth
ar y gwaith y mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ei wneud ym
maes technoleg. Mae’r raddfa yn enfawr o ran yr ymwelwyr
(dyma'r term sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer twristiaeth).
Mae’r ochr ddigidol yn amlwg o ran yr angen am dwristiaeth.
Mae gwaith yn cael ei wneud gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol er
mwyn ceisio casglu cymaint o ddata â phosibl. Beth yw’r
pethau sydd wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf, ym mhrofiad yr
ymddiriedolaeth? Y sgil COVID, mae gan lawer mwy o bobl bresenoldeb
ar-lein – cynnydd aruthrol wedi’i weld. Mae'r
ymddiriedolaeth yn gobeithio cyflawni sero net erbyn 2030. Bydd yn
rhoi llai o gynnwys ar-lein, ond bydd y cynnwys o ansawdd uwch.
Trafodwyd y prosiect y mae’r ymddiriedolaeth yn gweithio arno
ar gyfer gwella profiad y cwsmer. Mae’n arbrofi gyda gwahanol
apiau a'r ‘rhyngrwyd pethau’. Mae hyn yn
caniatáu iddo symud pobl i safleoedd eraill os oes pwysau ar
y safle dan sylw. Bydd yn ailgydio ym maes realiti estynedig
– technoleg nad oedd yn gweithio tua 10 mlynedd yn ôl.
Cafwyd gwelliannau yn y dechnoleg.
RaI –
Diolchodd i Keith, ac aeth ymlaen i sôn am ddadl a gafwyd yn
y Senedd, gan rannu linc yn y blwch sgwrsio:
https://digidoladata.blog.llyw.cymru/2022/02/23/o-wenyn-i-goed-a-phopeth-yn-y-canol-cymrun-defnyddior-rhyngrwyd-pethau/
Agorwyd y llawr i
gwestiynau:
CE – A yw
hyn yn rhywbeth rydych chi wedi’i wneud yn fewnol neu gyda
chwmnïau bach?
KJ – Yn
fewnol yn bennaf, gan ein bod am sicrhau cysondeb. Rydym yn
gweithio gyda darparwyr eraill ar yr ymchwil.
CE – O ran
yr ymchwil, beth sydd nesaf?
KJ – Rydym
yn gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gasglu data a
deall o ble mae pobl yn dod. Yn ogystal, rydym am ddeall mwy am
ansawdd y llwybrau, sut i gael mwy o’r data, a sut
mae’r tywydd ac ati yn dylanwadu ar ein data.
|
|
– Paul
Sandham (PS) – Kodergarten
Cafwyd trosolwg
cyflym o'r cwmni gan PS. Dywedodd fod y cwmni wedi creu ystod o
brosiectau dros y blynyddoedd, a soniodd am y sefydliadau y mae
wedi bod yn gweithio gyda nhw. Cafwyd trafodaeth am un o'r
cynhyrchion diweddaraf, sef Siop.io. Mae’n gweithio gyda
busnesau e-fasnach lleol yn dilyn y pandemig COVID, ac ar y
prosiect ynghylch lleoedd clyfar, sy’n brosiect a weithredir
ar y cyd â Menter Môn ac a ariennir gan y Llywodraeth.
Yn y dyfodol, bydd Siop.io yn edrych ar gefnogi llety gwyliau. Mae
eisoes yn cydweithio â llawer o bobl ar brosiectau
cydweithredol i greu archeb. Cafwyd trafodaeth ynghylch Patrwm,
sy’n gweithio gyda thoreth o bwyntiau data ar lefydd clyfar
– rhwydwaith WiFi sy’n casglu data ynghylch gwelededd
rhwydweithiau symudol yn yr ardal ac yn eu cyfrifo er mwyn cael
data ynghylch hyd yr amser y maent wedi bod yno, ac yn y blaen.
Cafodd ei ddileu yn unol â GDPR. Mae synwyryddion ar gyfer y
rhyngrwyd pethau wedi bod o gymorth o ran archebu a sganio'r data.
Mae 22 o byrth LoRaWAN wedi’u gwasgaru. Dangoswyd
enghreifftiau o'r data. Cafodd y system Porth ei hintegreiddio, sef
system ddata ddwyieithog ar gyfer rheoli e-byst, a hynny er mwyn
galluogi cymunedau i sganio a chreu ymgyrchoedd e-bost cymunedol. Y
cam nesaf i Patrwm yw gweithio gyda'r Eisteddfod. Raspberry
Shake – beth yw hwn? Mae’n cael ei ddefnyddio i
olrhain daeargrynfeydd, gan ddefnyddio'r sŵn i fonitro traffig
a nifer y bobl. Trafodwyd effaith y tywydd a sut mae synwyryddion
tywydd yn cael eu defnyddio.
Gofynnwyd a fyddai
modd cadw'r cwestiynau tan y diwedd er mwyn rhoi cyfle i'r
cyflwynydd wneud ei gyflwyniad.
|
|
– Gwion
Llwyd (Perchennog a Chyfarwyddwr Dioni Self Catering)
(GLl)
Soniodd am ei
fusnesau, sef bythynnod hunanarlwyo yng Nghymru, ac am ei
orffennol. Soniodd am y cymwysiadau y mae’n eu defnyddio i
wneud y gwaith hwn yn effeithiol. Soniodd am y cymwysiadau sydd
wedi gweithio'n dda i’w fusnesau. Awgrymodd defnyddio’r
cymwysiadau a ganlyn: Google Workspace, Drive, Moneypenny,
Evernote, Microsoft 360, To Do List, Starlink. Rhoddodd bwyslais ar
YouTube a TikTok, Google ac AdWords, o ran y defnydd o’r
gyllideb farchnata. Dywedodd ei fod yn defnyddio Google Analytics
yn helaeth ac yn dibynnu ar y data. Mae hyd at 60 y cant o’r
bobl sy'n ymweld â’r wefan yn fenywod. Cafwyd
trafodaeth am gyfryngau cymdeithasol a llwyddiant y busnes wrth
ddefnyddio Meta, gan fod ei holl hysbysebu yn cael ei wneud
drwy’r gyfrwng honno. Mae popeth yn seiliedig ar rwydweithiau
ar gyfer y dyfodol. Rhaid gwneud cysylltiadau digidol ar gyfer y
dyfodol. Mae’r rhwystrau o ran cael mynediad at ddeallusrwydd
artiffisial wedi gostwng yn aruthrol yn y blynyddoedd
diwethaf. Mae pryderon ynghylch newid hinsawdd – gallai
hyn arwain at gyfleoedd twristiaeth os yw'r tymheredd yn
cynhesu.
RaI –
Diolchodd i'r siaradwr, gan nodi’r modd y mae’n ceisio
gwthio’r sector twristiaeth tuag at fod yn
gynaliadwy
CE – Faint
o’r pethau yr ydych wedi sôn amdanynt heddiw sy’n
cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan y sefydliadau twristiaeth
cyffredinol, yn eich barn chi?
GLl – Mae
mynediad yn broblem. Nid oes gan ffermwyr ifanc fynediad at
farchnadoedd digidol na gwasanaethau band eang.
PS – Mewn
ardaloedd sy’n boblogaidd ymhlith twristiaid, fel Beddgelert,
nhw yw’r bobl sy'n ein hannog i'w defnyddio ac yn ein gorfodi
i ddefnyddio pethau newydd. Mae busnesau yn ymwybodol iawn o bethau
fel hyn. A yw’r cynnig arbennig ym Meddgelert ym mis Mawrth
yn achosi cynnydd yn y niferoedd sy'n ymweld â’r ardal
ac yn defnyddio technoleg fel Google Analytics?
Arwel Owen (AO)
– O ran y data rydych yn eu casglu, a ydych chi'n ystyried
ble’r ydych yn eu storio a’u cadw?
PS – Mae'n
fater y mae angen inni ei ystyried, ond rydym yn cydymffurfio
â’r rheolau ar ddiogelu data. Rydym am chwilio am
ddarparwr i leihau ein hallyriadau carbon.
CE – Soniodd
am syniadau a oedd yn ymwneud â sgwrs a gafodd gydag Ofcom
rai blynyddoedd yn ôl.
|
|
–
Cloi’r cyfarfod
RaI –
Dywedodd fod cysylltedd a sgiliau yn broblem, a soniodd am y
cymorth sydd ei angen. Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd pawb yn
cadw mewn cysylltiad, a diolchoch i'r holl siaradwyr a phawb arall
unwaith eto.
Gofynnodd am
awgrymiadau ar gyfer themâu yn y dyfodol –
seiberddiogelwch, o bosibl. Dywedodd y byddai mewn cysylltiad
ynglŷn â'r cyfarfod nesaf.
|
|
|